Myfyrio am Rywbeth 'Blaw Blogio

Meddwl oeddwn i 'swn i'n myfyrio am rywbeth gwahanol heddiw wrth barhau ar fy antur.

Dwi ddim llawer o fardd, felly o'n i'n meddwl 'swn i'n dechrau (a gorffen ma' siwr) hefo limrig.

Ymunwch yn yr hwyl os 'da chi ffansi. Dyma'r llinell dwi am ei ddefnyddio:

Aeth bôi-mâs-o-waith o Gaerffili.

Antur a Bagiau Bin

Newydd fod yn gwylio ffilm am Marco Polo (dim y boi neis 'na o Fynydd Kenfig, y llall).
Doeddwn i ddim wir yn ymwybodol o'i hanes o i ddweud y gwir, ac roeddwn yn synnu ar orchestion anhygoel y gwr yma dros 800 mlynedd yn ol a hynny heb help Thomas Cook. Yna darganfod fod y llyfr am ei deithiau mewn print ers y cyfnod, best seller myn uffar i!

Fedrwn i ddim peidio a chysidro fy anturiaethau bach i yng ngolau'r hyn a lwyddodd o i'w gyflawni yn ei fywyd. Digon di-nod mewn cymhariaeth. Prin fydd y siawns o gael cyhoeddi fy hanesion heb son am eu cael mewn print am 800 mlynedd - diolch i Dduw am flogs ... 'sgwn i fydda i yma mewn 800 mlynedd?

Does dim dwywaith 'dwi 'di i wedi cael fy siar o anturiaethau a phrofiadau o bob math, rhai 'swn i'n medru eu rhannu yn gwbl agored, rhai sy'n well dim ond yn fy nghof bach i. Stori arall 'di honno cofiwch, pan ma'r awen yn pylu efallai.

Un peth sy'n sicr, ma' croesi Java mewn tren, bws a moto beic yn pylu wrth ochr yr antur diweddara'.

Pwy ddiawl yn ei iawn bwyll sa'n symud ty dwedwch? Son am le! Ma'r ty 'ma yn edrych fel warws a dwi'n cadw'r diwydiant tap selo yn mynd ar fy mhen fy hun. Ma' prynu tocyn bws mewn Bahsa Indonesia yn bicnic i gymharu hefo'r stress o drio sortio'r prosiect yma allan. Dwi 'di son am y bocsys o'r blaen a felly does dim angen atgoffa fy hun o'r teimladau cymysg o weld fy mywyd wedi ei lapio. Ond rwan ma pethau'n desperate. Ma'r bocsys 'di gorffen a dwi lawr i fagiau bin. 'Da chi 'di sylwi faint ma' bag bin yn ei ddal? Nes 'da chi'n trio ei godi fo wrth gwrs. Sawl gwaith dwi di gorfod ail agor bag am fy mod wedi pacio rhywbeth 'dwi ei angen? Dwi'n britho'n ddyddiol.

A pwy ddiawl ddwedodd fod ffon y lon yn syniad da? 'Di'r blydi thing heb stopio canu. Yn amlach na pheidio ma gen i lond ceg o dap selo a llond dwrn o weddillion bag bin pan ma' rhywun sy'n meddwl bod nhw mewn mwy o frys na fi i nghael i symud yn galw i fy atgoffa fi o'r ffaith. 'Dwi'n gwybod hynny, dyna pam ma gen i gannoedd o focsys a rholiau o fagiau bin ym mhob man!
Os o'n i'n y felan yn gweld fy mywyd mewn bocsys, ystyriwch gweld y gweddillion bach diwerth mewn bagiau bin.

A ma' cwestiynau yn codi ynglyn a ystyr be' dwi 'di gasglu dros y blynyddoedd. Pam ma' gen i gitar? Fedra i ddim chwarae. Pam ma' gen i garreg o Ogof Twm Sion Cati? Oes 'na werth mewn hen gorn buwch? Ydw i wir angen Cyfansoddiadau a Beirniadaethau'r Eisteddfod 1938 - 1991?

Y cam nesa fydd gwneud yn siwr fy mod wedi canslo'r biliau i gyd a newid fy nghyfeiriad gyda'r holl bobl 'ma sy'n rhedeg fy mywyd i. Ma'r rhestr yn bedair tudalen erbyn hyn (ydw, dwi mor drefnus a hynny beth bynnag) a be' 'di'r bet y byddaf yn anghofio newid fy nghyfeiriad hefo'r cwmni 'na sy'n mynd i yrru siec anferth i mi am 'sgwennu blog gorau'r byd?

Dwi 'di dysgu lot fawr amdana i fy hun ar yr antur ddiweddara' 'ma, ond hyd yn hyn dwi ddim yn mwynhau'r profiad rhyw lawer. Fel llawer i brofiad wrth gwrs mi fydd gen i atgofion melus mewn blynyddoedd i ddod does dim dowt.

Rwan? Wel dwi'n meddwl y dylswn i fynd i siarad a'r boi neis na o Fynydd Kenfig!

Arbed y blaned hefo chips!

Achos o'r llon a'r lleddf ydy hi 'di bod heddiw.

Pam? Wel dwi 'di darganfod bod Williams Jones yn anghywir ac mai nid eu gwrthod y dylai fod wedi ei wneud.

Ond, ma' "gallai wneud yn well" yn dal i fod yn wir.

Does dim byd gwell nac oes? Chips hefo digon o halen a finag ar hen bapur newydd. A 'swn i'n dweud bod yr euogrwydd o'u bwyta yn ychwanegu at felystra'r profiad.

Wel dim mwy gyfeillion! Does dim rhaid teimlo'n euog wrth fwyta chips byth eto, 'chos hefo tipyn bach o alcohol a tamed bach o caustic soda ma' posib troi hen saim y chips yn danwydd a wnaiff weithio yn yr injan diesel 'cw a hynny heb rhoi clec i'r amgylchedd.

Yn ol pob tebyg ma' posib gwneud hyn yn y garej adref, a mae o beth diawl yn rhatach na stwff Tesco hefyd.

Gwylio 'It's not Easy Being Green' oeddwn i neithiwr, a sylweddoli bod 'na lwyth o bethau y medra i eu gwneud o gwmpas y cartref i leihau fy ol troed carbon.

Wyddoch chi, bod rhoi hanner potel Evian gwag yn nhanc eich toiled ddim jest yn arbed dwr, ond yn arbed pentwr o arian i chi os 'da chi ar y meter?

Gredwch chi bod posib cofrestru hefo'r Mailing Preference Service er mwyn stopio'r holl lythyrau diwerth gwastraffus 'na rhag glanio ar y mat?

Ma' tua Kg o bryfaid genwair (mwydod i chi a fi) wedi eu cymysgu a gweddillion y Spag Bol a'r Cyri nid yn unig yn creu compost gwych, ond yn creu gwrtaith organig lyfli ar gyfer eich rhosod hefyd!

Ma' na lwyth o bethau y gallaf eu gwneud!

Dyma lle mae'r "gallai wneud yn well" yn dod i mewn. Cyn belled ag yr oeddwn i yn y cwestiwn, yr oeddwn yn gweld fy hun fel rhywfaint o 'suburban eco-warrior'. Tom Goode y ganrif newydd! Hmmm dim ar ol gwneud y prawf. Ar ol sgorio llai na hanner marciau, "gallai wneud yn well" oedd hi.

A dyna'r sialens wrth fynd ymlaen o'r lle yma i'r lle nesa.

A dwi 'di dechrau mewn ffordd bositif iawn.

Be' oedd i swper? Wel chips wrth gwrs!

Blogio, Bocsys a Bresych

Sgersli bilifd, ond ma'r blogio 'ma yn cael cryn effaith arna i gwta wsnos ers dechrau. Dwi'n ffeindio fy mod yn talu sylw ac yn myfyrio cryn dipyn yn fwy ar be' sy'n mynd ymlaen o nghwmpas i. 'Rwan dydy 'sgwennu ddim yn dod yn naturiol i mi ma' rhaid cyfaddef, bwriad dyddiadur i mi yw fy atgoffa nad oes rhaid mynd i'r gwaith, a bwriad unrhyw fath o len oedd gwneud yn siwr fod missus drws nesa' ond un ddim yn gweld fy ngobeithion boreuol drwy'r ffenast gefn.

Yn sydyn iawn 'dwi'n dal fy hun yn myfyrio mwy ar y byd ai betws hyd yn oed wrth wagio'r sied a rhoi fy mywyd mewn bocsys cyn symud ymlaen. Yr ofn mawr ydy y byddwch yn fy ngweld ar lethrau'r mynydd hefo llyfr nodiadau yn synfyfyrio ar y cymylau cyn hir!

Dyna i chi brofiad, pacio fy mywyd mewn bocsys - dim y taflu pob dim 'na i fewn i fag bin ar ddiwedd tymor a'r golch i gyd mewn bag arall i mam ei sortio. Yn hytrach, mynd trwy pob dim, penderfynnu a oes unrhyw fwriad cadw hen lyfrau sgrap a luniais yn bedair oed a hen adroddiadau ysgol (ac oedden mi oedden nhw i gyd yn dweud "gallai fod wedi gwneud yn well"). Yna taflu'r (sori ailgylchu'r) stwff diwerth a phacio'r gweddillion yn ofalus a'i labelu er mwyn gwneud yn siwr bod trefn i fy mywyd y pen arall. Profiad 'sa'n sobri alcoholic ydy gweld ffrwyth eich bywyd mewn ambell focs. "Gallai fod wedi gwneud yn well" myn uffar i!

Rhyfedd sut ma' bocsys wedi cymryd drosodd yn fy mywyd i. Un o fy nghas ddywediadau Saesneg (un sy'n cael ei ddefnyddio yn aml yn y gwaith 'cw) ydy "Let's think outside of the box". Be' ddiawl sy'n bod hefo jest bod yn greadigol? Ond 'na fo, fel 'na mae.

Wel mi wnes i ddechrau meddwl 'outside of the box' am yr hyn a 'sgwennais ddoe. Ma' pawb yn dweud y dyliwn i fod yn poeni am yr hen blaned 'ma, ac yn wir bod yn hapus talu er mwyn ei arbed. Wel chwara' teg, ma bylbiau'r ty 'ma i gyd o'r math spesial 'na sy' ddim yn lladd y blaned, dwi'n ailgylchu yn selog, yn talu ffortiwn am betrol ac yn teimlo'n euog bob tro dwi'n defnyddio'r car i fynd i'r gwaith. Dwi'n troi'r cyfrifiadur i ffwrdd bob nos ac yn troi'r anghenfil un llygeidiog i ffwrdd yn y wal. Dwi hyd yn oed 'di bod yn cysidro prynu coed bob tro y byddaf yn mynd ar wyliau dramor (dim hefo Thomas Cook cofiwch!).

Ond ma'r bocs 'ma wedi gwneud i fi feddwl 'chydig am sut y medra i wneud tipyn mwy, 'chos ma' na bethau yn fy nhy i sy'n defnyddio llawer iawn mwy o danwydd nag ydw i yn ei wneud fyth.

Wyddoch chi fod gen i domatos o wlad Pwyl yn fy oergell, cig moch o Ddenmark, cyw iar o'r Iseldiroedd, orennau o Israel, byrgars o'r Iwerddon a menyn o Duw a wyr lle? Faint o blincin danwydd mae o 'di gymeryd i ddod a'r pethau yma i'r ty 'sgwn i? Welais i 'rioed domato mewn ty gwydr yng Ngymru, na mochyn mewn twlc, ieir ar y buarth na buwch mewn cae! 'Drychwch chi, dwi'n siwr fod eich oergell chithau wedi teithio miloedd ar filoedd o filltiroedd hefyd.

Ar ben hyn i gyd ma bob dim yn dod mewn blydi bocs o rhyw fath!!

Diwrnod od iawn

Gwrando oeddwn i ar y Post P'nawn ar fy mhen fy hun yn y car ar y ffordd adref a chlywed tair stori a wnaeth i'r tagiad traffig basio yn eithaf di boen.

Yn gyntaf clywed fod yr hen Jane yn ceisio cael grym i ddeddfu er mwyn gwarchod ein hamgylchedd yn fwy effeithiol a'n cael i ailgylchu mwy - sa hi'n gweld faint o ail gylchu dwi 'di bod yn gwneud wrth wagio'r ty!

Meddwl oeddwn i Jane, tra'r oeddwn yn eistedd yn y car 'llu 'de, y byddai'n well pe ba Gweinidogion Llywodraeth Cymru yn dangos arfer dda a chael gwared ar eu 'gas guzzlers' swyddogol yn gyntaf, cyn trio cael y werin datws i ailgylchu a dal y tren. Onid trwy esiampl ma' arwain?

Clywed wedyn bod caniatad cynllunio wedi ei basio i adeiladu fferm wynt anferth ar Fynydd Betws - sy'n mynd i arbed ein byd bach ni ond lladd yr adar man.

Ar yr un gwynt (sori!), disgrifiad o 'restio protestwyr ger Aberhonddu sy'n protestio yn erbyn y bibell nwy sy'n rhwygo ar draws cefn gwlad Cymru - pibell sy'n cario nwy sy'n mynd i ychwanegu at ein problemau amgylcheddol.

A hyn i gyd ar ol p'nawn lle yr oeddwn wedi bod yn chwysu peintiau yn y gwres tra roedd y glaw yn pistillio i lawr!

Fe wnaeth hyn i gyd i mi sylweddoli fy mod mewn twll braidd.

Dwi'n un o'r bobl 'ma sy' wedi darllen The Revenge of Gaia gan James Lovelock. Llyfr arswydus os 'da chi'n derbyn ei safbwynt o. Llyfr arswydus beth bynnag eich safbwynt efallai.

Mae un ddadl gan Lovelock yn cymeradwyo y defnydd o ynni niwcliar fel yr unig ateb sy' ar ol. Dadl sy'n fy nychryn ond dadl gref er hynny - a dyna ydy'r twll dwi ynddo fo.

Ydw i yn erbyn neu o blaid Ynni Niwcliar?

Ar hyn o bryd, Duw a wyr. Cawn weld.

Gormod o lawer i'w wneud

Dwi 'di bod braidd yn esgeulus y pen wsnos yma gan nad ydw i wedi blogio.

Y rheswm pennaf am hynny oedd fod pethau llawer iawn pwysicach gen i i'w gwneud na eistedd o flaen yr anghenfil yn teipio.
Does neb yn darllen y lol 'ma beth bynnag felly ma' rhaid cyfaddef nad oeddwn yn teimlo'n rhy euog, er fy mod wedi gorfod dod i chwilio am y catharsis yn y diwedd!

Profiad newydd i mi ydy chwydu myfyrdodau fel hyn ac felly fe gurodd potel neu ddwy o win coch y chwant y penwythnos yma, ynghyd a phrofiad digon tebyg i rai Pethau Bach yn yr atig, er mai gwagio dim chwilio yr oeddwn a doedd dim yno ar gyfer yr Antiques Roadshow os nad ydy llwyth o focsys cyfrifiadurol yn antiques erbyn hyn.

Syndod ydy o i mi fod cymaint o bobl wrthi ym mhob man ar draws y byd (blogio dwi'n feddwl!).

Ma'r glweidyddion 'ma i weld yn gwario hanner eu hamser yn blogio. Hmm dim byd gwell i'w wneud, yntai dyma sut ma cyfathrebu hefo'r bobl y dyddiau yma? Wel dwi'n gwybod be' ma nhw'n ei wneud yn ystod y Cyfarfodydd Llawn yn y Bae tra ma' Rhodri'n mwydro ar b'nawn Mawrth rwan beth bynnag.

Eniwe, ma gen i bethau gwell i'w wneud felly ffwrdd a fi.

Dyma ateb a ges i ebost a yrrais at Thomas Cook yn datgan siomedigaeth tuag at eu polisi iaith:

Your observations on a recent press statement from Thomas Cook are appreciated, and I am genuinely sorry that you are unhappy.

Thomas Cook asks its staff to speak English when discussing work related matters to ensure that those employees who do not speak another language are included in such conversations.

Thomas Cook employs staff from many cultural backgrounds and, therefore, appreciates staff may wish to have conversations with each other in another language.

We will be discussing this further with the Commission for Racial Equality and the Welsh Language Board in order to develop our policy on other languages in the workplace. The two statutory bodies have welcomed our decision to discuss how we develop best practice in this area.

Thomas Cook value the skills and contributions of all its staff, including their language abilities and we look forward to discussing with the Commission of Racial Equality and the Welsh Language Board how we can combine that with effective management of a complex working environment.

We would wish to assure you that it was never our intention to stop our staff speaking Welsh in the workplace.

We hope the above gives you assurance that we are taking this matter seriously.

Yours Sincerely
Danielle Hartley
Thomas Cook Customer Relations

Hmmm 'dwi'm yn meddwl y byddan nhw'n cael fy musnes i ar frys!
Be' 'da chi'n feddwl?

Talu ddwywaith!

Wel mae'n amlwg o'r diwrnod dwi newydd ei gael fy mod yn y busnes anghywir (ond i fod yn onest ma siwr fy mod yn sylweddoli hynny erbyn hyn).
Bu heddiw yn binacl o gyfnod o chwilio ac o regfeydd ar fy rhan i.

Pam? Wel dwi 'di bod allan yna yn chwilio am forgais newydd wrth symud ty.

Buan iawn nes i sylweddoli nad oedd gen i ddim llawer o glem ynglyn a be sy' di bod yn mynd ymlaen yn y byd ariannol ers i mi sortio morgais y tro diwethaf.

Yn fy niniweidrwydd roeddwn i'n meddwl y buaswn i yn medru cael morgais gan gwmni a wedyn talu am 'y fraint' yma trwy dalu llog am yr hyn yr oeddwn wedi ei fenthyg. Braf 'sa peidio gorfod talu o gwbwl ond dyna ni, rhaid ei dderbyn, ond yn sydyn mi wnes i sylweddoli fod yn rhaid i mi dalu ddwywaith.

Nid yn unig fod yn rhaid i mi dalu llog am fenthyg arian, roedd yn rhaid i mi dalu ffi i'r benthycwr am y fraint o ddefnyddio eu gwasanaeth!

Talu am yr hawl i gael talu am fenthyciad!

Be' wnes i?
Wel talu wrth gwrs, fel miliynau o bobl ac wrth wneud hynny yr oeddwn yn gwybod mai dim ond cadw'r sefyllfa gwarthus yma i fynd yr ydw i yn ei wneud.

Mi ddylwn i gysidro fy hun yn ffodus fy mod yn medru fforddio ty a morgais y dyddiau yma maen siwr, ond rhaid cyfaddef 'di hynny ddim yn gwneud y bilsen yn llawer haws ei llyncu!

A dyna fi 'di gwneud digon o gwyno am heddiw. Hwyl.

Y fi yn yr 21ain ganrif!

Wel dyma ydy anhygoel, y fi yn medru mwydro... sori myfyrio o fy
mobile! Handi ar y d gan ei fod yn edrych fel y byddaf yma fy hun tu
draw i'r enfys yn ôl jungle drums y Bae... O wel does unman yn debyg i
adref nac oes?

Wel dyma fi'n dechrau...

"Hen bryd i fi ddechrau" meddyliais i.
"Dechrau be?" Meddech chi.
Wel y blincin blogio ma 'de! Felly dyma fi wrthi. S'gen i ddim syniad be ddaw o'r hen ben gwag 'ma, ond mi wna i drio fy ngorau i gadw fy mhaldaruo ddiwedd nos yn fyr (rhaid i foi gysgu on'd oes?) a hefyd yn ddidorol (gobeithio). Ma' un peth yn sicr fydd fy myd bach i ddim yn troi o gwmpas Thomas Cook o hyn ymlaen, 'chos mae hi'n eitha sicr nad ydyn nhw yn malio dim un botwm corn amdana i a phobl tebyg i mi sydd am gadw'r hawl i fyw eu bywydau gwaith trwy gyfrwng eu hiaith ddewisol.
Os 'da chi'n cytuno, ymunwch a mi a miloedd eraill wrth leisio barn a cloi eu 'servers' nhw i fyny'n llwyr trwy eu e-bostio ar:
customer.relations@thomascook.com
A dyna fi 'di cael fy nweud am heno, nos da!

Missatges més recents Inici