Cymru, Lloegr ac Allez Les Bleus


Diwrnod arall o wylio'r rygbi fuodd o i mi heddiw, 'ta ddoe oedd hi deudwch?


Rwan 'dwi fel pob Cymro arall yn 'gutted' fod y bois allan o'r bencampwriaeth fawr, ond gadewch i ni fod yn onest, doedd o ddim mwy nag oeddan nhw'n ei haeddu. Er hynny doedd cefnogi Lloegr heddiw ddim yn opsiwn i mi (fel i lawer Cymro arall dwi'n siwr) - dim ond dau dim oedd yn y gystadleuaeth i mi o'r cychwyn, Cymru ac unrhyw un sydd yn chwarae yn erbyn Lloegr. Felly y tim arall gafodd fy nghefnogaeth wrth i mi ymweld a Betfair cyn y gem. A beth wnaethon nhw? Gwneud i mi golli fy spondoolics i'r bwci! Dyna i chi 'double whammy' go iawn!

Be' wnes i am y peth? Gwneud y peth call a rhoi bet fach ar Les Bleus i guro'r Cewri Duon! Mon Dieu mae angen soffa newydd arna i wedi 80 munud o neidio i fyny ac i lawr arno fo yn gweiddi 'Allez Les Bleus' (mi wn i, yn y clwb ddylwn i di bod, ond roedd gen i waith cartref i'w orffen cyn ysgol Sul B&Q fory!). Rwan ma digon gen i am ambell wydraid bach nos fory - ar ol gorffen fy ngwaith cartref wrth gwrs!
Dim ond neithiwr ('ta echnos oedd hi?) yr oeddwn yn gwrando ar broffwydolion ITV yn gwbl sicr na fyddai hemisffer y Gogledd unrhyw le yn agos i'r rownd derfynnol - pwy 'sa'n gwrando ar broffwyd dwedwch?
Be' nesa?
Yn y rownd gyn-derfynnol?
Wel, Allez les Bleus wrth gwrs
Hwyl a slepjans!

Dychwelyd i blaned Blog

Wel dyma fi'n ol ar blaned blog o'r diwedd!
Do mae hi di bod yn siwrnai hirfaith, a llawer 'di digwydd ers i mi chwydu fy myfyrdodau yn electronig y tro diwethaf 'nol tua mis Mehefin. Ond ma'r peiriant bach yn gweithio a'r band llydan wedi ei ail gysylltu, felly dyma fi.
Dwi'n dal i fyw allan o focsys (damia dwi'n siwr i mi addo peidio son am hynny), ond ma'r bocsys bellach mewn lle newydd a finnau erbyn hyn yn un o selogion B&Q bob bore Sul er mwyn ceisio troi hofel yn gartref cysurus - tasg a fydd yn cymeryd misoedd 'swn i'n tybio. Ond 'na fo fy newis i oedd o, felly dylwn i ddim cwyno.

Ers i mi ail gysylltu'r peiriant bach, dwi 'di codi fy mhen ac edrych o gwmpas rhyw 'chydig ar y We 'ma dwi'n sownd ynddo fo, a ma' rhaid cyfaddef fy mod wedi dod ar draws ambell i beth sydd wedi fy ngwneud i grio chwerthin a hefyd crio mewn tristwch.

Dwi ddim yn un i fod yn feirniadol o genhedloedd eraill ma' rhaid cyfaddef, a dwi 'di gwario cryn dipyn o amser yn mwynhau teithio'r byd yn cymdeithasu hefo pobloedd o bob lliw a llun, ond mi ddois i ar draws y darn bach yma o fideo a gododd ofn mwyaf uffernol arna i.

Ddyweda i ddim mwy, mi gewch chi wneud eich meddyliau eich hun i fyny - siawns y bydd eich casgliadau chi yn debyg iawn i fy rhai i.

Does dim ond gobeithio mai enghraifft leiafrifol yw hon, neu waeth i ni roi'r ffidil yn y to 'rwan!

Hwyl am y tro.

Missatges més recents Missatges més antics Inici