Dewch hefo fi i hela! Neu helpwch fi i adeiladu ysgol!
2 ymatebiad Myfyriadau gan Formidonis am 21:39 Roedd yn RHAID i mi flogio heno! Naill ai blogio neu tynnu fy ymenydd allan, ei roi mewn tanc pysgod am 'chydig a gwylio dyrnaid o 'has beens' neu efallai 'never weres' yn ponsian o gwmpas mewn coedwig yn Awstralia, rhyw hanner milltir o westy 5 seren, yn cwyno eu bod yn llwgu ar ol tridiau! Mae'n ddigon i foi gychwyn ymgyrch i gael dechrau hela eto.
Oes ma' 'jungle fever' yn ty ni.
Un peth da am y teledu mae'n siwr ydy eich bod yn medru troi y damn thing i ffwrdd, neu fynd i ystafell arall i ddarllen neu i falu cachu ar flog.
Do, dwi 'di cal llond bol o deledu. Dyna pam brynais i dy newydd efo shed anferth, ond ma'r blydi golau yn y sied angen ei drwsio a ma' hi rhy blydi oer i fynd yno beth bynnag, felly sori bois 'da chi'n mynd i orfod fy nioddef yn blogio.
Be sy'n bod ar bobl dwedwch? Am faint mwy 'da ni'n mynd i orfod dioddef pobl yn eistedd mewn ty yn siarad lol, gwylio pobl sy'n methu canu yn ceisio profi eu bod yn ser pop, gwylio celebs a dwy droed chwith yn ceisio bod yn Fred a Ginger neu fel heno, gwylio pobl sy'n 'llwgu' yn gwrthod bwyta danteithion y jungle? Ma hi di mynd yn wirion bost. Does dim posib cael hyd i blisman y dyddiau yma 'chos ma' nhw i gyd yn Sunhill, ma' pob ambiwlans yn Holby, yr unig beth sy'n ffit i'w fwyta yw be' bynnag ma'r Chef Noeth neu'r Arch Regwr yn ei gynnig o gegin uffern a fedrwch chi ddim fforddio ty yn Sir Benfro 'chos ma' "A life in the country" 'di perswadio llwyth o Gockneys i symud yno. Yn y bath dwi angen sebon hefyd bois, dim ar y blydi teledu!
Yn waeth na hynny, pan 'da chi 'di llwyddo osgoi'r holl rwtch yma dim ond dau beth sydd ar ol:
Blydi fwtbol!
a diolch i Dduw - Top Gear!
O.N Cofiwch genhadu'r neges i adeiladu ysgol am bris 2 beint! http://www.build-a-school.net.tf/Adeiladu ysgol am bris dau beint? Mae o'n bosib, dim ond i chi feddwl 'r un fath a fi!
Sawl peint o laeth mwnci, cherry binks bach neu botel o Chateau Cardboard gewch chi'r 'Dolig yma?
Os 'da chi unrhyw beth fel fi, mi fydd yn ambell i un ma' siwr!
Am be' ddiawl 'dwi'n son?
Wel neithiwr yr oeddwn yn eistedd o flaen y bocs (dyna pam nes i ddim blogio wir i chi!) ac fe welais hysbyseb Oxfam Unwrapped yn ystod y ddau funud yr oeddwn ar ddihun. Rhaid cyfaddef i'r hysbyseb yma ddal fy nychymyg yn syth, a ma' toiled yn Affrica rwan ar dop y lythyr sy'n mynd at Sion Corn yr wythnos nesa'.
Ond wrth bendroni tra'n yfed botel bach reit neis o Rioja cefais syniad. 'Sgwn i, meddyliais, fedra i ddefnyddio'r tipyn blog yma a falla Facebook a My-Space i wneud rhywbeth mawr hefo 'chydig bach?
Felly off a fi rownd gwefan Oxfam Unwrapped i weld oedd yna rywbeth y gallen ni gyd ei brynu, am bris peint neu ddau, y byddai'n gwneud gwahaniaeth uffernol y 'Dolig yma. A wyddoch chi mae na lwyth o bethau, ond yr un a ddaliodd fy sylw oedd bod posib prynu 'darn o ystafell ddosbarth am £5 (pris 2 beint yn y rhan fwyaf o lefydd dwi'n mynd iddyn nhw beth bynnag).
Rwan ma dosbarth cyfan yn costio £1,700, sy'n golygu os wnaiff 340 o bobl brynu darn bach o ddosbarth yn lle'r ddau ddiod olaf 'na yn y parti 'Dolig, mi fyddai posib cael dosbarth cyfan yn eithaf rhwydd.
A dyna'n syml y sialens.
'Rwan dwi'n sylweddoli fod agor a cau ysgolion yn bwnc eithaf llosg yng Nghymru ar hyn o bryd, ond gadewch i ni fod yn onest am funud. Fydd yna'r un plentyn yng Nghymru heb le mewn ysgol y flwyddyn nesa'. Mi fydd pob un yn cael addysg gyflawn o safon uchel gan athrawon gweithgar a brwdfrydig.
Felly be' am i ni fod yn 'chydig llai plwyfol a chynnig yr un cyfle i blant mewn gwledydd sydd ag anghenion lawer iawn yn fwy na'n rhai ni. Anghenion mor fawr nad oes posib i ni yng Nghymru eu deall.
A 'da ni'n mynd i fedru gwneud hynny heb hyd yn oed meddwl amdano fo. Rargian 'dwi 'di colli £5 cyn heddiw tra'n llymeitian mewn rhyw dafarn neu gilydd!
Felly peidiwch prynu peint i mi y 'Dolig yma, prynwch ystafell ddosbarth i blant fydd yn ei gofio am weddill eu hoes.
Yn amlwg fe gewch chi wneud hyn yn gwbl ddi-enw, ond mi fydda hi'n braf iawn cael clywed gennych os 'da chi'n bwriadu fy nghefnogi.
Dwi di gosod gwe-gyfeiriad syml i fyny wnaiff fynd a chi yn syth i'r dudalen gywir heb gofnodi eich defnydd ohonno a dyma fo:
http://www.build-a-school.net.tf/
Ond fel o'n i'n deud 'sa hi'n braf iawn cael gwybod faint o gefnogaeth sydd i'r ymgyrch.
Jest meddyliwch amdano y tro nesa' 'da chi'n prynu rownd £15!
Bum yn pendroni am hydoedd heddiw tra'n gwagio mwy o focsys (oes ma dal rhai ar ol!) be' fyddai orau i'w wneud. Y llyfrau oedd yn cael eu hail gartrefu heddiw, ac fe ddechreuais feddwl efallai y dylwn adolygu llyfr yr wythnos. Dim llyfr yr wythnos y Guardian na dim felly, ond y llyfr sydd yn y ty bach yr wythnos yma. Ond wrth fynd trwy'r pentwr mi ddois i'r casgliad yn fuan iawn nad yw adolygu cynnwys siop lyfrau'r stesion lleol lawer o orchest.
Trodd fy meddyliau wedyn at ffilmiau. Mae amryw o flogs enwog iawn yn adolygu ffilmiau, efallai fod dyfodol a gyrfa newydd i mi yn y maes hwnnw. Un problem fach. 'Dwi'm yn cofio'r tro diwethaf y gwelais i ffilm ar ei hyd. 'Dwi'n dueddol iawn o gyfrannu i sgript ffilmiau hefo chwyrnu trwm 'da chi'n gweld, a bu raid i mi stopio mynd i'r sinema gan fy mod yn aml yn codi cywilydd arna fi fy hun (ac unrhyw un oedd hefo fi) trwy chwyrnu, driblo a tharo ambell rech. 'Na'r syniad yna ar y 'cutting room floor'!
Prin nes i gysidro cerddoriaeth. Yr unig gerddoriaeth gyfoes dwi'n ei glywed yw be' sy'n cael ei chwarae yn y dafarn neu glwb, ac i fod yn onest dwi'm yn cofio bod yn y llefydd yna gan amlaf, heb son am ba gerddoriaeth oedd yn cael ei chwarae. Mi gafodd fy chwaraewr MP3 (dwi'n gwrthod gwneud iPOD fashion statement) ei ddwyn 'chydig fisoedd yn ol ac mi roeddwn i'n poeni yn fwy am beth fasa'r lleidr yn ei feddwl o'm chwaeth cerddorol nag am golli'r teclyn bach. A dyna chi fi'n ol ar fy nhin o ran cynnwys selog i'r blog.
Cefais flach o wleidyddiaeth am ennyd, ond fe ddiflanodd hwnnw reit sydyn - sylwedd o'n i'n chwilio amdano, a does dim llawer o hwnnw yng ngwleidyddiaeth Cymru ar hyn o bryd. Eniwe pwy 'sa eisiau cystadlu 'da Betsan a Vaughan?
Erbyn hyn ro'n i ar yr wythfed bocs o lyfrau ac yn teimlo'n reit ddigalon ond, wrth ymbalfalu yng ngwaelod bocs rhif 8 daeth flach o ysbrydoliaeth o'r lle mwyaf annisgwyl. Yn llechu yng ngwaelod y bocs roedd llyfr nad oeddwn wedi ei weld ers tro byd (mae'n amlwg nad y fi baciodd y bocs yna). Trist iawn yr olwg oedd o, ond ro'n i'n gwybod pam. Bu'n gydymaith i fi rhyw ugain mlynedd yn ol tra'n bodio yn Awstralia, a credwch chi fi ma' golwg gwell ar y blydi llyfr nag ar y perchenog! 'Rwan does dim dwywaith i'r llyfr yma gael cryn argraff arna i, falla oherwydd cyd-destun y darllen cyn gymaint a'r darllen ei hun. Cyhoeddwyd y llyfr gyntaf ym 1957. Y prif ysbrydoliaeth i mi yn y cyd-destun yma, ugain mlynedd ar ol i mi ei ddarllen o yn y llwch ar ochr y ffordd yn Awstralia, yw y ffaith fod yr awdur wedi ei deipio fo ar un darn o bapur cant ag ugain troedfedd o hyd. Ei ddull o ysgrifennu? Wel ar ol cyfnod hir o bendroni a straffaglio hefo testun, cymeriadaeth a plot fe ddywedodd, "I'm gonna forget all that horseshit and write it as it happens".
A dyna chi, dyna be' 'di blog am wn i. Rholyn di-ddiwedd o bapur electronig lle y gall unrhyw un anghofio'r cachu i gyd, a sgwennu pethau fel y maent yn digwydd. Fydd fy noniau ysgrifennu byth yn yr un cae a'r awdur mewn cwestiwn, ond efallai y medraf deimlo 'chydig o'r un rhyddhad ag y gwnaeth o.