Dychwelyd i blaned Blog

Wel dyma fi'n ol ar blaned blog o'r diwedd!
Do mae hi di bod yn siwrnai hirfaith, a llawer 'di digwydd ers i mi chwydu fy myfyrdodau yn electronig y tro diwethaf 'nol tua mis Mehefin. Ond ma'r peiriant bach yn gweithio a'r band llydan wedi ei ail gysylltu, felly dyma fi.
Dwi'n dal i fyw allan o focsys (damia dwi'n siwr i mi addo peidio son am hynny), ond ma'r bocsys bellach mewn lle newydd a finnau erbyn hyn yn un o selogion B&Q bob bore Sul er mwyn ceisio troi hofel yn gartref cysurus - tasg a fydd yn cymeryd misoedd 'swn i'n tybio. Ond 'na fo fy newis i oedd o, felly dylwn i ddim cwyno.

Ers i mi ail gysylltu'r peiriant bach, dwi 'di codi fy mhen ac edrych o gwmpas rhyw 'chydig ar y We 'ma dwi'n sownd ynddo fo, a ma' rhaid cyfaddef fy mod wedi dod ar draws ambell i beth sydd wedi fy ngwneud i grio chwerthin a hefyd crio mewn tristwch.

Dwi ddim yn un i fod yn feirniadol o genhedloedd eraill ma' rhaid cyfaddef, a dwi 'di gwario cryn dipyn o amser yn mwynhau teithio'r byd yn cymdeithasu hefo pobloedd o bob lliw a llun, ond mi ddois i ar draws y darn bach yma o fideo a gododd ofn mwyaf uffernol arna i.

Ddyweda i ddim mwy, mi gewch chi wneud eich meddyliau eich hun i fyny - siawns y bydd eich casgliadau chi yn debyg iawn i fy rhai i.

Does dim ond gobeithio mai enghraifft leiafrifol yw hon, neu waeth i ni roi'r ffidil yn y to 'rwan!

Hwyl am y tro.

2 ymatebiad:

Croeso'n ôl i ti !

6/10/07 5:02  

Diolch yn fawr! Gobeithio y byddaf yn medru ail gydio ynddi a bod 'chydig yn fwy rheolaidd unwaith eto :-)

6/10/07 13:39  

Entrada més recent Entrada més antiga Inici