Antur a Bagiau Bin

Newydd fod yn gwylio ffilm am Marco Polo (dim y boi neis 'na o Fynydd Kenfig, y llall).
Doeddwn i ddim wir yn ymwybodol o'i hanes o i ddweud y gwir, ac roeddwn yn synnu ar orchestion anhygoel y gwr yma dros 800 mlynedd yn ol a hynny heb help Thomas Cook. Yna darganfod fod y llyfr am ei deithiau mewn print ers y cyfnod, best seller myn uffar i!

Fedrwn i ddim peidio a chysidro fy anturiaethau bach i yng ngolau'r hyn a lwyddodd o i'w gyflawni yn ei fywyd. Digon di-nod mewn cymhariaeth. Prin fydd y siawns o gael cyhoeddi fy hanesion heb son am eu cael mewn print am 800 mlynedd - diolch i Dduw am flogs ... 'sgwn i fydda i yma mewn 800 mlynedd?

Does dim dwywaith 'dwi 'di i wedi cael fy siar o anturiaethau a phrofiadau o bob math, rhai 'swn i'n medru eu rhannu yn gwbl agored, rhai sy'n well dim ond yn fy nghof bach i. Stori arall 'di honno cofiwch, pan ma'r awen yn pylu efallai.

Un peth sy'n sicr, ma' croesi Java mewn tren, bws a moto beic yn pylu wrth ochr yr antur diweddara'.

Pwy ddiawl yn ei iawn bwyll sa'n symud ty dwedwch? Son am le! Ma'r ty 'ma yn edrych fel warws a dwi'n cadw'r diwydiant tap selo yn mynd ar fy mhen fy hun. Ma' prynu tocyn bws mewn Bahsa Indonesia yn bicnic i gymharu hefo'r stress o drio sortio'r prosiect yma allan. Dwi 'di son am y bocsys o'r blaen a felly does dim angen atgoffa fy hun o'r teimladau cymysg o weld fy mywyd wedi ei lapio. Ond rwan ma pethau'n desperate. Ma'r bocsys 'di gorffen a dwi lawr i fagiau bin. 'Da chi 'di sylwi faint ma' bag bin yn ei ddal? Nes 'da chi'n trio ei godi fo wrth gwrs. Sawl gwaith dwi di gorfod ail agor bag am fy mod wedi pacio rhywbeth 'dwi ei angen? Dwi'n britho'n ddyddiol.

A pwy ddiawl ddwedodd fod ffon y lon yn syniad da? 'Di'r blydi thing heb stopio canu. Yn amlach na pheidio ma gen i lond ceg o dap selo a llond dwrn o weddillion bag bin pan ma' rhywun sy'n meddwl bod nhw mewn mwy o frys na fi i nghael i symud yn galw i fy atgoffa fi o'r ffaith. 'Dwi'n gwybod hynny, dyna pam ma gen i gannoedd o focsys a rholiau o fagiau bin ym mhob man!
Os o'n i'n y felan yn gweld fy mywyd mewn bocsys, ystyriwch gweld y gweddillion bach diwerth mewn bagiau bin.

A ma' cwestiynau yn codi ynglyn a ystyr be' dwi 'di gasglu dros y blynyddoedd. Pam ma' gen i gitar? Fedra i ddim chwarae. Pam ma' gen i garreg o Ogof Twm Sion Cati? Oes 'na werth mewn hen gorn buwch? Ydw i wir angen Cyfansoddiadau a Beirniadaethau'r Eisteddfod 1938 - 1991?

Y cam nesa fydd gwneud yn siwr fy mod wedi canslo'r biliau i gyd a newid fy nghyfeiriad gyda'r holl bobl 'ma sy'n rhedeg fy mywyd i. Ma'r rhestr yn bedair tudalen erbyn hyn (ydw, dwi mor drefnus a hynny beth bynnag) a be' 'di'r bet y byddaf yn anghofio newid fy nghyfeiriad hefo'r cwmni 'na sy'n mynd i yrru siec anferth i mi am 'sgwennu blog gorau'r byd?

Dwi 'di dysgu lot fawr amdana i fy hun ar yr antur ddiweddara' 'ma, ond hyd yn hyn dwi ddim yn mwynhau'r profiad rhyw lawer. Fel llawer i brofiad wrth gwrs mi fydd gen i atgofion melus mewn blynyddoedd i ddod does dim dowt.

Rwan? Wel dwi'n meddwl y dylswn i fynd i siarad a'r boi neis na o Fynydd Kenfig!

Entrada més recent Entrada més antiga Inici