Blogio, Bocsys a Bresych

Sgersli bilifd, ond ma'r blogio 'ma yn cael cryn effaith arna i gwta wsnos ers dechrau. Dwi'n ffeindio fy mod yn talu sylw ac yn myfyrio cryn dipyn yn fwy ar be' sy'n mynd ymlaen o nghwmpas i. 'Rwan dydy 'sgwennu ddim yn dod yn naturiol i mi ma' rhaid cyfaddef, bwriad dyddiadur i mi yw fy atgoffa nad oes rhaid mynd i'r gwaith, a bwriad unrhyw fath o len oedd gwneud yn siwr fod missus drws nesa' ond un ddim yn gweld fy ngobeithion boreuol drwy'r ffenast gefn.

Yn sydyn iawn 'dwi'n dal fy hun yn myfyrio mwy ar y byd ai betws hyd yn oed wrth wagio'r sied a rhoi fy mywyd mewn bocsys cyn symud ymlaen. Yr ofn mawr ydy y byddwch yn fy ngweld ar lethrau'r mynydd hefo llyfr nodiadau yn synfyfyrio ar y cymylau cyn hir!

Dyna i chi brofiad, pacio fy mywyd mewn bocsys - dim y taflu pob dim 'na i fewn i fag bin ar ddiwedd tymor a'r golch i gyd mewn bag arall i mam ei sortio. Yn hytrach, mynd trwy pob dim, penderfynnu a oes unrhyw fwriad cadw hen lyfrau sgrap a luniais yn bedair oed a hen adroddiadau ysgol (ac oedden mi oedden nhw i gyd yn dweud "gallai fod wedi gwneud yn well"). Yna taflu'r (sori ailgylchu'r) stwff diwerth a phacio'r gweddillion yn ofalus a'i labelu er mwyn gwneud yn siwr bod trefn i fy mywyd y pen arall. Profiad 'sa'n sobri alcoholic ydy gweld ffrwyth eich bywyd mewn ambell focs. "Gallai fod wedi gwneud yn well" myn uffar i!

Rhyfedd sut ma' bocsys wedi cymryd drosodd yn fy mywyd i. Un o fy nghas ddywediadau Saesneg (un sy'n cael ei ddefnyddio yn aml yn y gwaith 'cw) ydy "Let's think outside of the box". Be' ddiawl sy'n bod hefo jest bod yn greadigol? Ond 'na fo, fel 'na mae.

Wel mi wnes i ddechrau meddwl 'outside of the box' am yr hyn a 'sgwennais ddoe. Ma' pawb yn dweud y dyliwn i fod yn poeni am yr hen blaned 'ma, ac yn wir bod yn hapus talu er mwyn ei arbed. Wel chwara' teg, ma bylbiau'r ty 'ma i gyd o'r math spesial 'na sy' ddim yn lladd y blaned, dwi'n ailgylchu yn selog, yn talu ffortiwn am betrol ac yn teimlo'n euog bob tro dwi'n defnyddio'r car i fynd i'r gwaith. Dwi'n troi'r cyfrifiadur i ffwrdd bob nos ac yn troi'r anghenfil un llygeidiog i ffwrdd yn y wal. Dwi hyd yn oed 'di bod yn cysidro prynu coed bob tro y byddaf yn mynd ar wyliau dramor (dim hefo Thomas Cook cofiwch!).

Ond ma'r bocs 'ma wedi gwneud i fi feddwl 'chydig am sut y medra i wneud tipyn mwy, 'chos ma' na bethau yn fy nhy i sy'n defnyddio llawer iawn mwy o danwydd nag ydw i yn ei wneud fyth.

Wyddoch chi fod gen i domatos o wlad Pwyl yn fy oergell, cig moch o Ddenmark, cyw iar o'r Iseldiroedd, orennau o Israel, byrgars o'r Iwerddon a menyn o Duw a wyr lle? Faint o blincin danwydd mae o 'di gymeryd i ddod a'r pethau yma i'r ty 'sgwn i? Welais i 'rioed domato mewn ty gwydr yng Ngymru, na mochyn mewn twlc, ieir ar y buarth na buwch mewn cae! 'Drychwch chi, dwi'n siwr fod eich oergell chithau wedi teithio miloedd ar filoedd o filltiroedd hefyd.

Ar ben hyn i gyd ma bob dim yn dod mewn blydi bocs o rhyw fath!!

2 ymatebiad:

Ychydig yn hwyr dwi'n gwybod , ond croeso i fyd y blogio! Doniol oedd y cyfeiriad am focsus, gan fy mod wedi bod yn gweithio heddiw yn gwagio bocus pobl eraill.Tydio ddim mor drist gweld rhywbeth yn berchen i rhywun arall mewn bocs;)

21/6/07 5:00  

Dwi newydd dechrau blogio, a dwi'n cael profiad yn debyg - Mae 'na wedi bod elfennau da a drwg i mi, weithiau dwi'n teimlo mod i'n dechrau edrych ar bopeth fel deunydd blog yn lle pethau i fwynhau am eu hunain. Ond mae sgwennu'r darnau'n rhoi trefn ar fy meddyliau, weithiau, hefyd.

Pob hwyl efo'r bocsys - a'r blog!

22/6/07 3:14  

Entrada més recent Entrada més antiga Inici