Be' am adeiladu ysgol am bris dau beint?

Adeiladu ysgol am bris dau beint? Mae o'n bosib, dim ond i chi feddwl 'r un fath a fi!

Sawl peint o laeth mwnci, cherry binks bach neu botel o Chateau Cardboard gewch chi'r 'Dolig yma?

Os 'da chi unrhyw beth fel fi, mi fydd yn ambell i un ma' siwr!

Am be' ddiawl 'dwi'n son?

Wel neithiwr yr oeddwn yn eistedd o flaen y bocs (dyna pam nes i ddim blogio wir i chi!) ac fe welais hysbyseb Oxfam Unwrapped yn ystod y ddau funud yr oeddwn ar ddihun. Rhaid cyfaddef i'r hysbyseb yma ddal fy nychymyg yn syth, a ma' toiled yn Affrica rwan ar dop y lythyr sy'n mynd at Sion Corn yr wythnos nesa'.

Ond wrth bendroni tra'n yfed botel bach reit neis o Rioja cefais syniad. 'Sgwn i, meddyliais, fedra i ddefnyddio'r tipyn blog yma a falla Facebook a My-Space i wneud rhywbeth mawr hefo 'chydig bach?

Felly off a fi rownd gwefan Oxfam Unwrapped i weld oedd yna rywbeth y gallen ni gyd ei brynu, am bris peint neu ddau, y byddai'n gwneud gwahaniaeth uffernol y 'Dolig yma. A wyddoch chi mae na lwyth o bethau, ond yr un a ddaliodd fy sylw oedd bod posib prynu 'darn o ystafell ddosbarth am £5 (pris 2 beint yn y rhan fwyaf o lefydd dwi'n mynd iddyn nhw beth bynnag).

Rwan ma dosbarth cyfan yn costio £1,700, sy'n golygu os wnaiff 340 o bobl brynu darn bach o ddosbarth yn lle'r ddau ddiod olaf 'na yn y parti 'Dolig, mi fyddai posib cael dosbarth cyfan yn eithaf rhwydd.

A dyna'n syml y sialens.

'Rwan dwi'n sylweddoli fod agor a cau ysgolion yn bwnc eithaf llosg yng Nghymru ar hyn o bryd, ond gadewch i ni fod yn onest am funud. Fydd yna'r un plentyn yng Nghymru heb le mewn ysgol y flwyddyn nesa'. Mi fydd pob un yn cael addysg gyflawn o safon uchel gan athrawon gweithgar a brwdfrydig.

Felly be' am i ni fod yn 'chydig llai plwyfol a chynnig yr un cyfle i blant mewn gwledydd sydd ag anghenion lawer iawn yn fwy na'n rhai ni. Anghenion mor fawr nad oes posib i ni yng Nghymru eu deall.

A 'da ni'n mynd i fedru gwneud hynny heb hyd yn oed meddwl amdano fo. Rargian 'dwi 'di colli £5 cyn heddiw tra'n llymeitian mewn rhyw dafarn neu gilydd!

Felly peidiwch prynu peint i mi y 'Dolig yma, prynwch ystafell ddosbarth i blant fydd yn ei gofio am weddill eu hoes.

Yn amlwg fe gewch chi wneud hyn yn gwbl ddi-enw, ond mi fydda hi'n braf iawn cael clywed gennych os 'da chi'n bwriadu fy nghefnogi.

Dwi di gosod gwe-gyfeiriad syml i fyny wnaiff fynd a chi yn syth i'r dudalen gywir heb gofnodi eich defnydd ohonno a dyma fo:

http://www.build-a-school.net.tf/

Ond fel o'n i'n deud 'sa hi'n braf iawn cael gwybod faint o gefnogaeth sydd i'r ymgyrch.

Jest meddyliwch amdano y tro nesa' 'da chi'n prynu rownd £15!

2 ymatebiad:

Syniad gwych...dwi'n barod i dy gefnogi.

13/11/07 4:20  

Gwych, diolch Linda.
Cofia basio'r ymgyrch ymlaen i dy ffrindiau ayyb i weld os fedrwn ni lwyddo i wneud hyn cyn y 'Dolig.

13/11/07 18:13  

Entrada més recent Entrada més antiga Inici