Dwi'n teimlo braidd yn euog i fod yn onest fy mod wedi esgeuluso'r blogio 'ma ers tro bellach - a ma' rhaid cyfaddef fy mod wedi dechrau mwynhau fy hun yn myfyrio a malu yma. Ond, fe ddaeth un peth ar ol y llall a ma'r hen flog wedi cael ei adael i'w ddyfeisiadau ei hun.

Does dim dwywaith fy mod wedi cysidro paldaruo fwy nag unwaith, ond roedd yr hen anghenfil dal mewn bocs (dyna'r blydi bocsys 'na eto) a hyd yn oed pan ges i gyw anghenfil ar fy nglin roedd 'na ryw rwystredigaeth yn codi a diffyg ysbrydoliaeth o unrhyw fath. Rhaid dweud fod Ysgol Sul B&Q wedi troi yn ysgol ddyddiol bellach ac mae'r ardd newydd a digon o waith i'm cadw'n brysur am oes.

Er y prysurdeb dwi'n meddwl mai diffyg ysbrydoliaeth yw'r prif fai er hynny. Ma' 'na ddigon yn digwydd bob dydd sy'n fy nghorddi fi'n rhacs cofiwch, ac mi fydda i'n meddwl reit aml y dylwn fod yn chwydu fy llid yn erbyn y byd a'i betws yma - yr hen gatharsis 'llu. Ond erbyn cyrraedd adref a gwneud rhyw jobyn neu ddau o gwmpas y lle, dwi'n ffeindio fod y llid a'r dicter sydd wedi bod yn berwi drwy'r dydd yn gadael, a ma' bywyd yn eithaf dedwydd a thawel yn fy nghornel bach newydd i o Gymru fach.

Ma' hynny wedi i gwneud i mi gysidro bod ffordd felly o ehangu'r dedwyddwch newydd 'ma i weddill fy niwrnod. Meddwl oeddwn i y baswn i'n trosglwyddo catharsis y tipyn blog yma o ddiwedd dydd (fel yr oedd yn tueddu i fod o'r blaen) i fod yn ryddhad yn ystod y dydd. Fe ddaw hynny a'i drafferthion ei hun wrth gwrs. Wel fedra i ddim gwario gormod o amser yn blogio yn ystod diwrnod gwaith na fedra, dim Aelod Cynulliad ydw i wedi'r cwbl!

Ar ol gwneud 'chydig o ymchwil i mewn i sut mae'r blincin blog 'ma yn gweithio ('sa chi'n meddwl 'swn i 'di gwneud hynny cyn dechrau mewn gwirionedd, ond 'na fo nes i ddim darllen destructions y peiriant DVD chwaith) mae'n amlwg i mi y medra i yrru blogiadau byrfyfyr yn eithaf rhwydd trwy e-bost neu hefo fy ffon lon heb iddo darfu ar fy ngwaith dyddiol. Wedi'r cwbl rwtch llwyr 'di tua 70% o'r e-bostion 'dwi'n eu derbyn yn y gwaith beth bynnag. Gyda llaw e-bostion ydyn nhw dim e-byst, y lluosog am bostyn i ffensio neu bostyn giat ydy 'pyst'!

Felly dyna dwi am ei drio, rhyw bytiau byr yn ystod y dydd o hyn ymlaen. Ia, iawn dwi'n gwybod ma' 'na filiynau o bobl yn gwneud yr union beth yma ledled y byd bob munud o'r dydd yn barod, ond ma' rhaid i bawb weithio allan y pethau yma drostyn nhw eu hunain yn does? Wedi'r cwbl rhywbeth hollol bersonol 'di hwn i fod, a hyd yn hyn dim ond rhyw ddau berson sy' 'di darllen unrhyw beth 'dwi 'di roi yma - sy'n ei wneud o'n eithaf personol am wn i.

Diawl! Am rywun sy'n cael trafferth gwybod be' i roi ar flog dwi 'di gwneud yn reit dda o ran swmp y tro yma, 'dwn i ddim am sylwedd er hynny.

Dyna ni felly, blogiadau byr o hyn ymlaen - wel 'dwi am drio beth bynnag...

1 ymatebiad:

Fydda i hefyd yn cael diffyg ysbrydolaeth yn aml. Dw i'n ffeindio bod blogio yn gwaith yn help mawr.

8/11/07 13:32  

Entrada més recent Entrada més antiga Inici