Dal mewn penbleth? Falla ddim...


Fel 'da chi'n gwybod, 'dwi 'di bod mewn cryn benbleth dros y dyddiau diwethaf 'ma ynglyn a'r defnydd gorau i'w wneud o'r tipyn blog 'ma - gobeithio'ch bod chi'n licio'r newydd wedd gyda llaw.

Bum yn pendroni am hydoedd heddiw tra'n gwagio mwy o focsys (oes ma dal rhai ar ol!) be' fyddai orau i'w wneud. Y llyfrau oedd yn cael eu hail gartrefu heddiw, ac fe ddechreuais feddwl efallai y dylwn adolygu llyfr yr wythnos. Dim llyfr yr wythnos y Guardian na dim felly, ond y llyfr sydd yn y ty bach yr wythnos yma. Ond wrth fynd trwy'r pentwr mi ddois i'r casgliad yn fuan iawn nad yw adolygu cynnwys siop lyfrau'r stesion lleol lawer o orchest.

Trodd fy meddyliau wedyn at ffilmiau. Mae amryw o flogs enwog iawn yn adolygu ffilmiau, efallai fod dyfodol a gyrfa newydd i mi yn y maes hwnnw. Un problem fach. 'Dwi'm yn cofio'r tro diwethaf y gwelais i ffilm ar ei hyd. 'Dwi'n dueddol iawn o gyfrannu i sgript ffilmiau hefo chwyrnu trwm 'da chi'n gweld, a bu raid i mi stopio mynd i'r sinema gan fy mod yn aml yn codi cywilydd arna fi fy hun (ac unrhyw un oedd hefo fi) trwy chwyrnu, driblo a tharo ambell rech. 'Na'r syniad yna ar y 'cutting room floor'!

Prin nes i gysidro cerddoriaeth. Yr unig gerddoriaeth gyfoes dwi'n ei glywed yw be' sy'n cael ei chwarae yn y dafarn neu glwb, ac i fod yn onest dwi'm yn cofio bod yn y llefydd yna gan amlaf, heb son am ba gerddoriaeth oedd yn cael ei chwarae. Mi gafodd fy chwaraewr MP3 (dwi'n gwrthod gwneud iPOD fashion statement) ei ddwyn 'chydig fisoedd yn ol ac mi roeddwn i'n poeni yn fwy am beth fasa'r lleidr yn ei feddwl o'm chwaeth cerddorol nag am golli'r teclyn bach. A dyna chi fi'n ol ar fy nhin o ran cynnwys selog i'r blog.

Cefais flach o wleidyddiaeth am ennyd, ond fe ddiflanodd hwnnw reit sydyn - sylwedd o'n i'n chwilio amdano, a does dim llawer o hwnnw yng ngwleidyddiaeth Cymru ar hyn o bryd. Eniwe pwy 'sa eisiau cystadlu 'da Betsan a Vaughan?

Erbyn hyn ro'n i ar yr wythfed bocs o lyfrau ac yn teimlo'n reit ddigalon ond, wrth ymbalfalu yng ngwaelod bocs rhif 8 daeth flach o ysbrydoliaeth o'r lle mwyaf annisgwyl. Yn llechu yng ngwaelod y bocs roedd llyfr nad oeddwn wedi ei weld ers tro byd (mae'n amlwg nad y fi baciodd y bocs yna). Trist iawn yr olwg oedd o, ond ro'n i'n gwybod pam. Bu'n gydymaith i fi rhyw ugain mlynedd yn ol tra'n bodio yn Awstralia, a credwch chi fi ma' golwg gwell ar y blydi llyfr nag ar y perchenog! 'Rwan does dim dwywaith i'r llyfr yma gael cryn argraff arna i, falla oherwydd cyd-destun y darllen cyn gymaint a'r darllen ei hun. Cyhoeddwyd y llyfr gyntaf ym 1957. Y prif ysbrydoliaeth i mi yn y cyd-destun yma, ugain mlynedd ar ol i mi ei ddarllen o yn y llwch ar ochr y ffordd yn Awstralia, yw y ffaith fod yr awdur wedi ei deipio fo ar un darn o bapur cant ag ugain troedfedd o hyd. Ei ddull o ysgrifennu? Wel ar ol cyfnod hir o bendroni a straffaglio hefo testun, cymeriadaeth a plot fe ddywedodd, "I'm gonna forget all that horseshit and write it as it happens".

A dyna chi, dyna be' 'di blog am wn i. Rholyn di-ddiwedd o bapur electronig lle y gall unrhyw un anghofio'r cachu i gyd, a sgwennu pethau fel y maent yn digwydd. Fydd fy noniau ysgrifennu byth yn yr un cae a'r awdur mewn cwestiwn, ond efallai y medraf deimlo 'chydig o'r un rhyddhad ag y gwnaeth o.

Entrada més recent Entrada més antiga Inici